I Ble Y Gallaf Deithio? |
|
![]() |
Mae cymaint o wahanol fannau gwych yng Nghymru y gallwch eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus mae’n anodd gwybod ble i ddechrau. Dyma rai awgrymiadau Mae’r rhan fwyaf o fewn cyrraedd cerdded o orsaf drên, neu arosfan bws. Cofiwch, rhai awgrymiadau yn unig sydd yma: cewch mwy o syniadau gan Ganolfannau Gwybodaeth Twristiaid.
|
Cyrchfannau a Thraethau |
|
![]() |
Rydych chi am draethau? Maen nhw yma, ac mae’r Faner Las gan lawer ohonynt. Ceir cyrchfannau fel Llandudno, Aberystwyth, y Bermo, a Dinbych y Pysgod. Ar Ben Llyn ceir cildraethau a chilfachau di-rif. Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Phenrhyn Gwyr (www. countrygoer.org/wales) ceir teithiau cerdded, bywyd gwyllt, clogwyni a digonedd o draethau bach.
|
Cestyll ac Adeiladau Hanesyddol |
|
![]() |
Mae CADW (www.cadw. wales.gov.uk) yn gofalu am lawer o adeiladau hanesyddol fel cestyll Cricieth, Harlech, Caernarfon, Conwy, ac, yn y De, Casgwent a Penfro. Rhaid ymweld ag Abaty Tyndyrn, Ty Tredegar yng Nghasnewydd, Castell Caerdydd ac Amgueddfa Werin Cymru ger Caerdydd. Mae Traphont Pontcysyllte (mynediad trwy orsaf Rhiwabon) yn dysteb ragorol i fedr a menter y Chwyldro Diwydiannol. Dwy ymhlith nifer o eglwysi hanesyddol yw Cadeirlannau Llandaf ac Aberhonddu-ceir nifer o gapeli hefyd! Ym Mhortmeirion ceir blas o Fôr y Canoldir (a chofio am ffilm The Prisoner!). Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (www.nationaltrust.org.uk) sy’n gofalu am gestyll, tai a rhannau pwysig o’r arfordir.
|
Rheilffyrdd Twristiaid |
|
|
Ceir dewis helaeth, gan gyfuno diddordeb o’r rheilffordd a golygfeydd gogoneddus. Dangosir lleoliad y rheilffyrdd ar y map ac fe gynhwysant Reilffordd Ucheldir Cymru, a Ffestiniog, Tal-y-llyn, Llangollen ((mynediad trwy orsaf Rhiwabon), Dyffryn Rheidol yn Aberystwyth, a’r Gwili, ger Caerfyrddin.
|
Parciau Cenedlaethol, Bryniau a Mynyddoedd |
|
|
Ceir tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (www.breconbeacons. org) yn cynnwys mynyddoedd tonnog a thir agored eang. Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (www.pcnpa.org. uk) yw unig barc arfordirol Prydain ac yno gwelir arfordir Cymru ar ei gorau. Mae Parc Cenedlaethol Eryri (www. eryri-npa.gov.uk) yn cynnwys tirwedd fwyaf trawiadol Cymru - a gellir cyrraedd copa’r Wyddfa ar drên! Gwlad o fryniau, mynyddoedd a dyffrynnoedd yw Cymru. Yn ogystal â’r Parciau Cenedlaethol gellir mwynhau llonyddwch a golygfeydd godidog mewn cymaint o wahanol fannau. Mae dyffrynnoedd De Cymru, a fwyngloddiwyd unwaith am lo, yn dychwelyd i’w harddwch cynhenid; gellir eu cyrraedd yn hawdd o Gaerdydd. Mae Mynyddoedd y Cambria yn ffurfio asgwrn cefn Cymru o Fachynlleth i Lanymddyfri.
|
Gerddi ac Atyniadau Eraill |
|
|
Gerddi Bodnant ger Eglwysbach, Mwynglawdd Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Amgueddfa Sant Deiniol, Penarlâg. Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne, y ddau ger Caerfyrddin.
|
Trefi a Dinasoedd |
|
|
Caerdydd - Canolfan siopa newydd sy’n baradwys i siopwyr, Canolfan diwylliannol a chartref Llywodraeth y Cynulliad; Abertawe - yr ail ddinas - a chanolfannau masnachol llewyrchus yn Wrecsam. Mae’n werth ymweld â threfi llai hefyd, fel Caerfyrddin - y mynediad i Gerddi Cymru; Aberhonddu, cartref yr Ŵyl Jazz enwog, a Llandudno.
|
Gweithgareddau |
|
|
|
Mae teithiau hunan-dywysiedig ar wahanol fannau ar hyd rheilffyrdd y Cambria a Chalon Cymru, ac mae Llwybr Arfordirol Sir Benfro yn denu ymwelwyr gydol y flwyddyn. Gallwch grwydro hyd y wlad trwy ddilyn Clawdd Offa a Ffordd Glyndyr (www.nationaltrail.co.uk). Mae Cymru hefyd yn denu gwylwyr adar a chynigia gyrsiau golff hyfryd a cheir sawl lle atyniadol i bysgota. Ceir amrywiaeth o deithiau cerdded ar gyfer y cerddwr profiadol sy’n mwynhau taith gerdded hir a’r cerddwr sy’n chwilio am daith fer - a gellir teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd nifer ohonynt.
|