Cyrraedd Cymru ar Drafnidiaeth Cyhoeddus |
|
![]() |
Er mwyn teithio o gwmpas Cymru rhaid i chi fynd i un o’r brif orsafoedd sef Caerdydd, Caer neu’r Amwythig. Oddi yno gallwch gysylltu’n hawddâ’r rhwydwaith o drenau a gwasanaethau TrawsCambria sydd ar y map. Gwasanaethir Caerdydd gan drenau mynych o Lundain, y De Ddwyrain a Gorllewin Lloegr (www.fgw.co.uk) a Chanolbarth Lloegr (www.crosscountrytrains.co.uk). Cyrhaeddir yr Amwythig o Lundain (www.wrexhamandshropshire.co.uk), ac o Fanceinion a’r Gogledd (www.arrivatrainswales.co.uk). Gwasanaethir Caer gan drenau mynych o Lundain (www.virgintrains.co.uk) ac o Crewe a Manceinion (www.arrivatrainswales.co.uk). Dangosir cysylltiadau awyrennau ar y map a cheir llongau i’r Iwerddon o Sir Benfro, Abertawe a Chaergybi. Mae gorsaf trên ym mhob un ohonynt.
|
Ymholiadau Trafnidiaeth Cyhoeddus? Galwch Traveline Cymru! |
|
![]() |
Dyma’r gwasanaeth cyfeillgar am yr holl wybodaeth teithio yng Nghymru. Galwch 0871 200 22 33 rhwng 07.00 a 20.00, neu ewch i www.traveline-cymru.info. Mae gan sawl arosfan bws rif unigryw. Anfonwch decst at 82468 i gael ateb rhad sy’n rhoi amserau a destinations o’r pedwar bws nesaf i gyrraedd.
|
Beth Yw Trawscambria? |
|
![]() |
Rhwydwaith gweithredu sy’n ehangu yng Nghymru yw TrawsCambria. Mae’n defnyddio cerbydau o ansawdd uchel, hawdd eu defnyddio, ac yn gweithredu gwasanaeth sy’n aros mewn mannau penodedig. Nod TrawsCambria yw sicrhau bod pobl leol a thwristiaid yn gallu mynd i lawer mwy o drefydd, gan gysylltu lle’n bosibl â gwasanaethau rheilffordd a bysiau lleol lle’n bosibl. Am fanylion ewch i www.trawscambria.org.uk
|
Darganfod Cymru gyda Phas Fflecsi Crwydro Cymru |
|
|
|
Os ydych chi’n cynllunio taith i ddarganfod pethau gorau Cymru’r, pam na holwch am docyn Pas Fflecsi (www.walesflexipass.co.uk). Mae hwn yn rhoi rhyddid i chi ddefnyddio pob gwasanaeth trên prif linell a bron pob gwasanaeth bws yng Nghymru heb gyfyngiad. Wrth ddefnyddio’r tocyn hwn, mae rhwydweithiau trenau a bysiau’n ymuno i gynnig ffordd o gyrraedd bron pob cwr o’r wlad hardd ac amrywiol hon. Gallwch fwynhau gwyliau antur llawn cyffro yn ardal Eryri, crwydro unrhyw un o lannau môr hardd Cymru, neu deithio’n hamddenol ar hyd llwybrau Cymru a’r Gororau trwy drefi hanesyddol Amwythig, Llwydlo, Llanllieni a Henffordd. Drwy ddefnyddio ein Canllaw Teithio, a roddir am ddim i bobcwsmer sy’n prynu Pas Fflecsi Crwydro Cymru, gallwch ymuno â’r nifer gynyddol o deithwyr annibynnol sy’n defnyddio trenau a bysiau i ddarganfod Cymru. Mae’n rhoi mapiau o atyniadau a’r holl fanylion y bydd arnoch eu hangen i gynllunio’ch taith. A dim ond y dechrau yw hynny. Mae pobl â’r tocyn hwn hefyd yn cael amrywiaeth anhygoel o fanteision eraill gan gynnwys mynediad ‘dau am bris un’ neu fynediad gostyngol i lawer o atyniadau twristaidd mwyaf Cymru.
|