Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Cymru |
|
|
Mae'r holl linellau rheilffyrdd mewn lliwiau ar y map hwn yn cael cymorth gan Bartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol. Mae gan bob Partneriaeth gysylltiadau agos gyda'r trefi a'r pentrefi mae'n eu gwasanaethu ac mae pob un yn aelod o gorff y DU sef Cymdeithas y Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol (ACoRP). Os ydych chi’n chwilio am antur a gwefr, dewiswch her a bydd honno gan Gymru ac y Gororau. Beth am roi cynnig ar snorclo cors yn Llanwrtyd? Neu ar gaiacio? Mae rhai o’r lleoedd gorau yn Ewrop ar gyfer caiacio mor ger arfordir Cymru, ac ar gyfer padlo mewn dwr gwyllt mae afonydd megis Tryweryn a Dyfrdwy. Mae gennym siopau gwych, llefydd bendigedig i fwyta ac yfed, theatrau, a dewis eang o atyniadau eraill at ddant bob chwaith a chyllideb. I’r rheiny sy’n hoffi pleserau tawelach mae Aberystwyth, ar arfordir y Canolbarth, sy’n falch o’i harddwch naturiol a’i threftadaeth Gymreig. Mae awyrgylch bywiog y dref yn tarddu o bresenoldeb y brifysgol leol ac egni ei safle fel cyrchfan gwyliau. Mewn gwrthgyferbyniad mae Portmeirion yn bentref unigryw yn yr arddull Eidalaidd, a saif ar ei bentir preifat ei hun ar lannau deheuol Eryri, mewn 70 erw o erddi coetir istrofannol. Ar y brif rodfa mae plasty Fictoraidd, sydd wedi cael ei adfer yn ddiweddar yn westy a bwyty mewn arddull brasserie. Mae yn lawer o bethau i'w gwneud a'i gweld ar y llinellau a nodir. Cliciwch ar y linc sydd o ddiddordeb i chi er mwyn darganfod mwy.
|
![]() |