Llinell y Gororau

 

Llinell y Gororau

 

 

Gyda golygfeydd helaeth a lleoedd diddorol tu hwnt, mae yna gymaint i’w weld a’i wneud. Dewch i Wrecsam, gyda’i chymysgfa o farchnadoedd traddodiadol a mannau siopa newydd, yng nghysgod twr Eglwys Blwyf San Silyn, un o Saith Rhyfeddod Cymru. Treuliwch amser mewn pentrefi llawn hanes, megis Penarlag, gyda’i dai ffram bren o’r 16eg ganrif. Cewch sglefrio ia ar Lawr Sglefrio Glannau Dyfrdwy, sydd ychydig o funudau o waith cerdded o orsaf Shotton. Piciwch i Neston, gyda’i marchnad ddydd Gwener a’i siopau arbenigol. Mae gan Bidston gysylltiadau a threnau Merseyrail bob 15 munud (bob 30 munud fin nos ac ar ddydd Sul) i fynd i Benbedw, gyda’i chanolfan siopa a’i marchnad, neu Liverpool Central i fynd i’r Albert Dock ac arddangosfa wych y ‘Beatles Story’.

Llinell y Gororau
19/08/07