Mabwysiadu Gorsaf |
|
Beth am gymryd rhan yng nghynllun ‘Mabwysiadu Gorsaf’ Trenau Arriva Cymru? Nod y prosiect hwn yw gwella’r amgylchedd ar orsafoedd sydd heb staff ac annog adborth rheolaidd am adeiladau a chyfleusterau gorsafoedd. Bydd pobl sy’n mabwysiadu gorsaf yn cael gwerth £60 o dalebau teithio am ddim, i’w defnyddio ar unrhyw ran o’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol. Oes gennych ddiddordeb? I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Threnau Arriva Cymru. Trenau Arriva Cymru, Cysylltiadau Cwsmeriaid: Ffôn: 0845 6061 660 www.arrivatrainswales.co.uk
|